- yr arfer o gael syniadau, arddull neu chwaeth o amrywaieth o ffynonellau
Mae ffasiwn yn ei hanfod yn Eclectig, ond mae gennym ni eiriau gwahanol i’w ddisgrifio, megis 'juxtaposition'. Mae yna awgrym poblogaidd yn lledaenu ar TikTok, sef y ‘ddamcaniaeth esgidiau annisgwyl’; mae hyn yn golygu cyfnewid esgid ffurfiol am un hamdden ac i’r gwrthwyneb. Fy hoff gyfuniad yw esgid chwaraeon drwchus a sgert neu ffrog batrymog. Nid yw eclectigiaeth yn rhy annhebyg i duedd, lle mae cyfuniad o arddulliau gwahanol a chyfnodau yn cymysgu dros amser. Mae cael arddull eclectig yn ymwneud yn fwy ag edrych i mewn, gan wneud eich tueddiadau eich hun o'r byd o'ch cwmpas. Mae'n debyg i pan ydyn ni’n cerdded i mewn i dŷ person. Bydd ganddo gymysgedd o eitemau: gwaith celf wedi'i baentio â llaw o'i ddyddiau celf TGAU; mân bethau o'i deithiau dramor; fasau neu ganhwyllau o anrhegion Nadolig. Cliwiau bach sy'n adrodd stori am y person hwnnw.
Nid yw ffasiwn yn wahanol, p'un a ydyn ni’n ei hoffi ai peidio. Mae'r hyn rydyn ni’n ei wisgo yn y bore yn adlewyrchu ein personoliaeth. Meddyliwch pa mor ddiflas fyddai hi os bydden ni i gyd yn edrych yr un peth? Mae bod yn eclectig yn golygu mynd yn erbyn normau traddodiadol gan anwybyddu rheolau mympwyol fel ‘blue and green should never be seen’.
Mae arddull bersonol wych yn chwilfrydedd eithafol amdanoch chi'ch hun. –Iris Apfel
Mae dod o hyd i'ch steil personol yn gallu bod yn anodd iawn. Weithiau, mae sut rydyn ni'n teimlo ar y tu mewn a sut rydyn ni'n arddangos ein hunain ar y tu fas yn bethau gwahanol iawn, boed hynny oherwydd ffordd o fyw, lleoliad, rhesymau ariannol neu hyder. I mi, mae'r steil dwi eisiau ei bortreadu yn fersiwn well ohonof i; dyna beth fyddai fersiwn well, fwy hwyliog ohonof i’n ei wisgo pe bai gen i’r lle, neu’n byw mewn lle i’w wisgo. Mae'n swnio'n drist ar bapur, ond dwi'n siŵr nad ydw i ar fy mhen fy hun yn meddwl hynny. Ond pan fyddwn ni’n manteisio ar y freuddwyd honno, gall agor rhywbeth y tu mewn i ni; mae fel gwisgo arfogaeth. Gall ymgysylltu â'n steil agor llwybrau newydd. Yn y diwedd, down at rywbeth yn y canol – fersiwn fwy cywir.
Mae ffasiwn eclectig yn ymwneud â chi. Ond dyma rai awgrymiadau a all ein helpu i ddod o hyd i'n llwybr.
Beth yw eich hoff eitem o ddillad a pham?
A ydych chi erioed wedi cael trafferth dod o hyd i rywbeth i'w wisgo? Wrth fynd i ddigwyddiad, a oes gennych chi bentwr o ddillad ar hyd yr ystafell wely ac yna’n mynd yn ôl yn y diwedd at eich ffefryn bob tro? Er mor annifyr y gall hyn fod, dwi wrth fy modd pan fydd hynny'n digwydd. Mae'n dangos bod ein dewisiadau yn gynhenid. Lle da i ddechrau arni yw gyda'ch hoff eitem a myfyrio ar pam rydych chi'n mynd amdani dro ar ôl tro. Ai’r patrwm, y siâp, y ffabrig ydyw? Pan fyddwn ni’n ei gymhwyso i'n harferion siopa, rydyn ni’n dechrau curadu casgliad o'n hoff bethau. Bydd rhai yn cyd-fynd a rhai yn methu, ac mae hynny'n rhan o'r hwyl. Bydd cael eich ffefrynnau fel rhan greiddiol o'r casgliad hwnnw bob amser yn helpu i seilio'ch golwg.
Rhywbeth hen, rhywbeth newydd
Mae ffasiwn vintage yn lle gwych i arbrofi ag arddulliau a gadael i'ch dychymyg fynd yn wyllt. Yn wahanol i siop arferol sy'n cael ei churadu'n ofalus gyda phopeth mewn codau lliw, mae siopau dillad ail-law yn llawn amrywiaeth. Gall helpu i wthio'ch ffiniau ar yr hyn sy'n gywir i'w wisgo. Mae cyfuno hen eitemau a darnau modern a darnau sydd eisoes yn ein cwpwrdd dillad yn helpu i roi bywyd newydd i hen ddarnau.
O ran ategolion, cadwch nhw ymlaen ac ychwanegwch ragor!
Un o’r ffyrdd hawsaf o ddyrchafu gwisg o fod yn salw i fod yn wych yw i ategoli, a gorau po fwyaf personol yw’r wisg. Gall cael amrywiaeth eang o emwaith, bagiau, sgarffiau, gwregysau ac ati wneud i’ch gwisgoedd deimlo’n fwy personol heb orfod newid eich dillad drwy'r amser. Nid oes rhaid i'r ategolion hyn fod yn ddrud bob amser a gellir eu casglu dros amser. Pan fyddwch chi'n cymryd yr amser i guradu'r ategolion hyn, byddwch chi'n eu gwerthfawrogi yn llawer iawn mwy.
Rhowch gynnig ar frandiau indie
Gall fod yn anodd dod o hyd i'r eitem honno sy'n dweud ‘dyma fi’. Gall gwneud rhywfaint o ymchwil ar frandiau indie roi persbectif ffres i chi. Gyda chymaint o ddylunwyr dawnus yn y byd, bydd yna bob amser rywbeth i chi. Fel dylunwyr, rydyn ni’n adeiladu ein byd a'n persbectif ein hunain. Rydyn ni’n ceisio dod o hyd i bobl sydd eisiau bod yn rhan o'n llwyth.
Gwnewch y peth annisgwyl
Defnyddiwch amrywiaeth o ddarnau o'ch cwpwrdd dillad, gan gyfuno gwisg ffurfiol a dillad hamdden (cofiwch y ddamcaniaeth esgidiau annisgwyl). Dyma ffordd dda o ychwanegu dyfnder a gwahaniaeth i wisg. Mae hefyd yn gynaliadwy gan ein bod ni’n defnyddio ein cwpwrdd dillad i gyd ac nid rhan fach ohono yn unig.
Gallwch wneud hyn trwy haenu. Mae haenu fel collage ar gyfer ein cyrff. Gallwn greu cymaint mwy o ddimensiwn a chyfuniadau trwy haenu, gan gyfuno patrymau a gweadau mewn ffordd newydd a chyffrous. Byddwch yn feiddgar gyda lliw. Mae symud tuag at ddadansoddi lliw tymhorol yn herio ein syniadau am yr hyn a ystyrir yn niwtral. Gall arbrofi â lliw ein helpu i ddod o hyd i'n palet lliwiau ond hefyd ffurfio thema a all glymu gwisgoedd eclectig at ei gilydd.
Dwi'n gobeithio fy mod i wedi'ch ysbrydoli i archwilio’ch cwpwrdd a bod yn feiddgar.
Hwyl fawr,
Elin
Commentaires